TYSTIOLAETH CLlLC AR GYFER YMCHWILIAD Y

PWYLLGOR IECHYD, GOFAL CYMDEITHASOL A

CHWARAEON I FIL AWTISTIAETH (CYMRU)

 

Medi 2018

 

Amdanom Ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae’r tri awdurdod parc cenedlaethol a’r tri awdurdod tân ac achub yn aelodau cyswllt.                

 

Mae WLGA yn sefydliad trawsbleidiol y bydd gwleidyddion yn ei arwain, gydag arweinyddion o bob awdurdod lleol yn pennu polisïau drwy’r Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor WLGA ehangach. Mae’r WLGA hefyd yn penodi uwch aelodau fel Llefarwyr ac Is-lefarwyr i ddarparu arweiniad cenedlaethol ar faterion polisi ar ran llywodraeth leol.        

 

Mae WLGA yn gweithio’n agos ag ymgynghorwyr proffesiynol a chymdeithasau proffesiynol o lywodraeth leol, ac yn aml yn cael eu cynghori ganddynt, fodd bynnag, WLGA yw’r corff cynrychiadol ar gyfer llywodraeth leol ac mae’n darparu llais torfol, gwleidyddol llywodraeth leol yng Nghymru.

 

Mae WLGA, yn gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cynnal Tîm Datblygu Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistiaeth (ASA) Cenedlaethol ers nifer o flynyddoedd. Chwaraeodd y tîm rôl allweddol mewn cefnogi’r gwaith o greu a ffurfio Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI) ar gyfer Cymru ac maent wedi darparu ystod o adnoddau defnyddiol a chyngor er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ymateb yn well i anghenion pobl awtistig. Mae’r tîm yn rhan annatod o Gynllun Gweithredu Strategol Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistiaeth sydd wedi’i ddiweddaru.


 

Cyflwyniad

Mae’n bwysig cydnabod y cynnydd a wnaed ers cyhoeddi’r cynllun gweithredu ASA gwreiddiol yn 2008, un o’r cyflawniadau allweddol oedd cynyddu proffil ac ymwybyddiaeth o awtistiaeth yng Nghymru. Ceir ystod eang o wybodaeth ac adnoddau i helpu pobl awtistig a’u teuluoedd a’u gofalwyr, yn ogystal ag adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Gwnaed y cynnydd hwn heb yr angen am ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y gellir bob amser gwneud mwy ac y bydd rhai o’r gwelliannau a’r camau gweithredu’n cymryd amser i’w cyflawni. Rydym oll eisiau gweld gwir wahaniaeth yn y gwasanaethau, y gofal a’r cymorth sydd ar gael i bobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr, felly mae’n briodol cymryd yr amser i ystyried y cynigion a nodir ym Mil Awtistiaeth (Cymru) a ph’un a fydd newidiadau deddfwriaethol yn wir yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir.

 

Rydym yn glir bod angen i unrhyw ddeddfwriaeth newydd ychwanegu gwerth, ynghyd â gwneud gwir wahaniaeth a chael effaith, o gymharu â’r hyn y gellid ei gyflawni heb ddeddfwriaeth benodol. Y realiti yw y byddai deddfwriaeth aneffeithiol yn siomi’r disgwyliadau uchel sydd gan bobl awtistig a’u teuluoedd a’u gofalwyr y bydd deddfwriaeth newydd ac ychwanegol yn gwneud newidiadau ystyrlon i’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

 

Roedd WLGA wedi ymateb yn flaenorol i’r ymgynghoriadau ar y cysyniad cyffredinol o Fil Awtistiaeth (Cymru) arfaethedig ac ar Fil Awtistiaeth (Cymru) drafft lle amlygwyd ein pryderon sylfaenol am yr ymagwedd o greu deddfwriaeth ar wahân ar gyfer cyflwr penodol. Rydym yn credu, o ran deddfwriaeth fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Deddf GIG (Cymru) 2006 a Deddf Cydraddoldeb 2010, os ydynt yn gweithio’n iawn, y dylent gyflenwi ar gyfer ein holl ddinasyddion ar sail angen. O ystyried y sylfeini deddfwriaethol a’r pwerau sydd eisoes ar waith yng Nghymru, a’r ffaith ein bod eisoes wedi amlygu y byddai’n well pe bai sawl agwedd ar y Bil sydd wedi’u cynnig yn cael eu cynnwys o fewn canllawiau / codau ymarfer yn hytrach nag mewn deddfwriaeth sylfaenol, nid ydym wedi ein hargyhoeddi eto o’r angen i greu’r darn ar wahân hwn o ddeddfwriaeth. Byddai’n well gennym adeiladu ar y pwerau a’r mecanweithiau sydd eisoes ar waith a defnyddio’r rheiny i gryfhau’r gwasanaethau, y gofal a’r cymorth sydd ar gael i bobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

 

Nid ydym felly’n cefnogi’r angen am Fil Awtistiaeth (Cymru). Rydym yn credu, drwy osod strategaeth awtistiaeth benodol mewn statud, bod perygl o ddosbarthu adnoddau’n annheg, heb o reidrwydd adeiladu datrysiad hirdymor cynaliadwy a strategol sy’n mynd i’r afael ag anghenion pobl awtistig. Yn ein barn ni, y perygl yw y gallai’r Bil olygu y bydd adnoddau a gweithgareddau’n cael eu llywodraethu gan set gul o brosesau statudol, yn hytrach na chael eu cyfeirio yn ôl bwriad i gyflenwi gwell canlyniadau. Gallai hyn arwain at anawsterau penodol i gynghorau yng nghyd-destun cyllidebau sydd eisoes dan bwysau, a cheir pryder yn y diwedd y gallai arian gael ei gyfeirio i ffwrdd o wasanaethau cymorth eraill, ac y gallai unrhyw fuddion ar gyfer pobl awtistig fod ar draul pobl ag anableddau eraill. Ceir risg hefyd y bydd y Bil hwn yn ychwanegu cymhlethdod neu ddyblygu, yn achos gofalwyr er enghraifft.

 

Mae angen ystyried yn o ddifrif hefyd y goblygiadau o ran gosod cynsail o’r fath wrth fynd ymlaen, gan nad gwasanaethau i bobl anabl yw’r unig faes lle bo angen gwella gwasanaethau i bobl â chyflyrau penodol. Mae’n hanfodol ei bod yn canfod ac yn ystyried holl ganlyniadau anfwriadol deddfwriaeth mewn perthynas ag unrhyw gyflwr penodol, a’n bod yn archwilio unrhyw risg y bydd deddfwriaeth o’r fath efallai’n effeithio ein gallu i ymateb i eraill ar sail angen.

 

Y cynnydd hyd yma 

Wrth ystyried yr angen am ddeddfwriaeth ychwanegol, mae’n hanfodol i ni ystyried y cynnydd a wnaed eisoes yng Nghymru o dan y trefniadau deddfwriaethol a pholisi presennol, ynghyd â’r gwaith a gynlluniwyd sydd eisoes ar fynd, i’n helpu i bwyso a mesur pa werth ychwanegol fyddai’n dod o ganlyniad i unrhyw ddeddfwriaeth newydd, os oes unrhyw beth.

 

Ers datblygu’r Strategaeth Awtistiaeth yn 2008 a’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer ASA a ddiweddarwyd yn 2016, mae Cymru wedi gweld cryn gynnydd o ran gwasanaethau a chymorth i bobl awtistig, gyda chynnydd mewn ymwybyddiaeth, cynhyrchu ystod o adnoddau, ynghyd â hyfforddiant yn cael ei ddatblygu a’i roi ar waith. Gan weithio’n agos â Llywodraeth Cymru (LlC), mae awdurdodau lleol ac iechyd wedi sefydlu, neu maent yn y broses o sefydlu, 7 GAI rhanbarthol. Fe’u hariennir gan LlC drwy’r Gronfa Gofal Integredig (ICF), yn seiliedig ar ôl troed Byrddau Iechyd, o dan oruchwyliaeth y 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol amlasiantaethol statudol, gan ganolbwyntio ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r GAI ar y cyd yn cyfrannu tuag at yr hyn a welir fel gwasanaeth cenedlaethol a chanddo safonau ac ymarfer tebyg a chyson, sy’n darparu cyngor ac arweiniad, ac sy’n cynnig atebion ymarferol i ystod o heriau.

 

Yn ystod 2017/2018, lansiwyd GAI Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf, Gwent a Phowys yn y cyfnod datblygu cychwynnol a daethant i fod yn weithredol, tra cafodd un Gogledd Cymru ei lansio ym Mehefin 2018. Mae Gorllewin Cymru a Bae’r Gorllewin yn parhau i wneud cynnydd yn barod ar gyfer eu lansio’n ddiweddarach eleni, a bydd GAI gweithredol ym mhob rhanbarth erbyn yr hydref 2018. Mae Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol wedi cefnogi creu’r GAI hyn, ac mae’n parhau i wneud hynny ar gyfer yr ardaloedd hynny nad ydynt yn gwbl weithredol hyd yma.

 

Rhan o rôl y Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol yw datblygu a darparu adnoddau mewn partneriaeth er budd unigolion awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae eu gwefan (www.ASDinfoWales.co.uk) yn rhan allweddol o’r cynnig hwn ac fe’i hariennir gan LlC fel rhan o Gynllun Gweithredu Strategol ASA ar gyfer Cymru. Mae’n cynnwys ystod eang o wybodaeth, cyngor ac adnoddau i bobl awtistig a’r rheiny sy’n eu cefnogi, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol a chanddynt ddiddordeb a rôl mewn awtistiaeth, ac i sicrhau bod anghenion pobl awtistig yn cael eu cyfathrebu i randdeiliaid allweddol. Mae’r tîm yn parhau i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ac yn datblygu hyfforddiant, yn codi ymwybyddiaeth ac yn darparu adnoddau cefnogol ar gyfer awtistiaeth y gellir eu defnyddio gan y GAI, gwasanaethau ehangach, pobl awtistig a phawb sy’n eu cefnogi. Mae’r Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol hefyd yn cefnogi’r gwaith o gydlynu a chyflenwi hyfforddiant yn unol â Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Mae cynllun “Weli Di Fi?” yn hyrwyddo ymwybyddiaeth a’r gallu i dderbyn awtistiaeth mewn cymunedau er mwyn gwella mynediad i ddarpariaeth gymunedol ar gyfer unigolion awtistig. (www.ASDinfoWales.co.uk/leisure-staff a www.ASDinfoWales.co.uk/housing-provider-scheme). 

Mae rhai o’r adnoddau a ddatblygwyd ganddynt yn cael eu rhestru isod: 


 

Tyfu gydag Awtistiaeth

Mae’r adnoddau Tyfu gydag Awtistiaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr plant a’r glasoed iau. Mae ystod o adnoddau ar gael, gan gynnwys canllaw yn dilyn diagnosis, taflenni cynghori, lluniwr proffil personol plentyn, cardiau lluniau i strwythuro gweithgareddau dyddiol plentyn, 5 ffilm fer sy’n darparu trosolwg o awtistiaeth a chyngor ynghylch materion cyffredin eraill, gan gynnwys cynllunio cyfathrebu, ymdopi â newidiadau ac ymweld â gweithwyr iechyd proffesiynol.

 

Mae adnoddau i gefnogi cyfoedion a brodyr a chwiorydd i ddeall awtistiaeth wedi’u datblygu hefyd. Ffilm animeiddiedig yw Teifi a’i Ffrindiau, gyda’r lleisiau gan gast Stella, sy’n dangos i blant ifanc sut i fod yn garedig ac i allu derbyn rhai sydd ag anghenion ychwanegol. Mae Archarwyr Awtistiaeth ar gael fel llyfr stori ac fel comig antur a ddyluniwyd i ddatblygu dealltwriaeth o awtistiaeth ar gyfer plant o oedran ysgol gynradd.

 

Dysgu gydag Awtistiaeth

Ceir cyfres o adnoddau ar gyfer lleoliadau addysgol o’r blynyddoedd cynnar i ysgolion uwchradd, ac mae rhaglen addysg bellach ac ar gyfer dysgu yn y gweithle yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Dyluniwyd y rhaglenni Dysgu gydag Awtistiaeth i helpu staff i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau i gefnogi’r rheiny ag awtistiaeth. Anogir plant a disgyblion hefyd i ddysgu gydag adnoddau Teifi a’i Ffrindiau, yr Archarwyr Awtistiaeth a Sgilti. Ar ôl i’r holl staff a disgyblion ymgymryd â’r hyfforddiant priodol, gall ysgolion wneud cais i fod yn lleoliad ‘Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth’.

 

Byw gydag Awtistiaeth

Mae’r adnoddau Byw gydag Awtistiaeth yn cynnwys canllaw cefnogol sy’n cynnwys awgrymiadau a chyngor i’r rheiny sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth. Gall unigolion hefyd chwilio geirfa idiomau a gallant greu a lawrlwytho proffil personol i amlygu eu cryfderau a’u hanawsterau a sut y gall eraill eu cefnogi.           


 

Gweithio gydag Awtistiaeth

Ceir adnoddau ar gyfer y rheiny sy’n rhoi cymorth i bobl awtistig gael cyflogaeth ynghyd â rheolwyr a chydweithwyr o ran y rheiny sy’n gweithio ym maes Adnoddau Dynol. Ymhlith adnoddau i gefnogi cyflogwyr mae ffilm Byw gydag Awtistiaeth a hyfforddiant e-ddysgu. Er mwyn cefnogi unigolion i gael cyflogaeth, ceir lluniwr CV, pecyn chwilio am waith a lluniwr medrau. Ar gyfer cydweithwyr a rheolwyr, ceir cynllun Bod yn Fodlon Gweithio gydag Awtistiaeth sy’n cynnwys siarter i’w llofnodi, cyngor a chynllun hyfforddiant ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes Adnoddau Dynol.

 

Mae’r Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol hefyd yn hwyluso Cymuned Ymarfer ar gyfer diagnosis i oedolion sy’n dwyn ynghyd gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn datblygu llwybrau asesu, diagnostig a chymorth ledled Cymru. Mae’r Gymuned Ymarfer eisoes yn mynd i’r afael âmeysydd allweddol fel datblygu arfer gorau mewn perthynas â: canfod a diagnosio ASA; llwybrau; asesu; a chynllunio. Mae sawl un o’r agweddau hyn wedi’u harchwilio a’u cytuno eisoes, ac maent yn cael eu cyflwyno’n genedlaethol drwy’r GAI. Mae’r Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol yn mynd ati ymhellach i hwyluso rhwydwaith o arweinwyr ASA mewn awdurdodau lleol, ynghyd ag arweinwyr GAI ledled Cymru. Bydd y Rhwydwaith Arweinwyr GAI Cenedlaethol sydd newydd ei sefydlu yn gweithio ar y cyd â’r tîm a LlC i gwblhau templedi adrodd ICF ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i sicrhau bod gwybodaeth a gesglir yn darparu gwybodaeth ar ganlyniadau ac effaith y gwasanaethau. Gwneir rhagor o waith i alinio data a gesglir yn y GAI gyda hynny a gesglir yn y gwasanaethau Niwroddatblygiadol. Mae’r fforymau hyn yn hanfodol ar gyfer rhannu arferion da, cyfnewid gwybodaeth a chynnal y sylw allweddol ar anghenion unigolion awtistig, rhieni, gofalwyr a theuluoedd.

 

Mae’n werth nodi hefyd bod LlC eisoes wedi nodi eu bwriad i gyflwyno Cod Ymarfer ar gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth a gyhoeddir o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf GIG (Cymru) y flwyddyn nesaf. Nod hyn yw egluro’r cymorth y gall pobl awtistig ddisgwyl ei dderbyn, a bydd yn darparu arweiniad ar sut y gall gwasanaethau addasu eu hymarfer i ddiwallu anghenion unigol pobl awtistig.


 

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n eistedd ochr yn ochr â’r Bil yn cyfeirio’n aml at y ffaith bod y Bil yn adeiladu ar y trefniadau presennol a nodir uchod. Er enghraifft:

·         “adeiladu ar yr enillion a wnaed gan y Cynllun Gweithredu Strategol”

·         “adeiladu ar y trefniadau presennol ar gyfer casglu data, sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd”

·         “adeiladu’n bennaf ar ddeunyddiau sydd eisoes wedi’u paratoi ar gyfer y Cod Ymarfer hwn [i’w datblygu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)]”

·         “bydd yr ymgyrch i wella ymwybyddiaeth am y Bil hwn yn adeiladu ar yr adnoddau presennol hyn [y rheiny a ddatblygwyd eisoes gan y Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol, fel ymgyrch ‘Weli Di Fi?]”

·         adeiladu ar ddyheadau Cynllun Gweithredu Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, a oedd yn sefydlu seilwaith ar gyfer awtistiaeth ym mhob ardal awdurdod lleol, gyda chydlynwyr a strategaethau lleol, a chydlynydd cenedlaethol ar gyfer Cymru.”

 

Mae hyn yn amlinellu’r ffaith bod llawer o’r hyn y mae’r Bil yn bwriadu ei gyflawni wedi cychwyn yn barod – gwnaed llawer o gynnydd eisoes, ac mae’r cynigion deddfwriaethol penodol ar gyfer awtistiaeth sy’n destun ymgynghori yn amlygu’r hawliau presennol sy’n bodoli eisoes, ac y gellir eu cyflawni drwy lwybrau eraill. Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd gydnabod bod llawer o’r gwaith sydd wedi cychwyn yn dal i fod ar y gweill, fel sefydlu’r GAI rhanbarthol. Trwy’r Cynllun Gweithredu Strategol a chyflwyno’r GAI, rydym erbyn hyn yn gweld gwelliannau sylweddol yn ymddangos mewn gwasanaethau, ynghyd ag awydd unwaith eto i weithio ar y cyd ar draws sectorau. Mae angen i ni hoelio’n sylw ar gyflenwi’r gwasanaethau a’r cymorth sy’n gallu gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl awtistig a’u teuluoedd drwy gefnogi sefydlu’r gwasanaethau hyn a rhoi amser iddynt wreiddio llwybrau newydd, yn hytrach nag efallai ansefydlogi neu rwystro peth o’r cynnydd hwn. Mae’r gwaith o weithredu’r GAI Cenedlaethol yn cael ei adolygu’n annibynnol ar hyn o bryd. Disgwylir canlyniad yr adolygiad hwn erbyn Mawrth 2019, ac felly mae angen i ni ddisgwyl am y canlyniad hwn cyn edrych i wneud unrhyw newidiadau pellach ac ystyried p’un a oes angen gwneud unrhyw newidiadau o ran polisi, neu yn wir deddfwriaeth, er mwyn gwella gwasanaethau.


 

Profiadau Lloegr a’r Alban          

Mae’n werth nodi’r profiad yn Lloegr hefyd, a ph’un a yw cyflwyno deddfwriaeth awtistiaeth benodol yn wir yn arwain at wella gwasanaethau. Yn Lloegr, cafodd y Ddeddf Awtistiaeth Gydsyniad Brenhinol yn Nhachwedd 2009 a gosododd ofynion statudol ar y Llywodraeth i gyhoeddi strategaeth awtistiaeth ar gyfer oedolion, ynghyd ag arweiniad statudol cysylltiedig ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff iechyd lleol mewn perthynas â chefnogi anghenion oedolion awtistig. Cam gweithredu allweddol o’r strategaeth Think Autism oedd y byddai GIG Lloegr yn helpu i wella gwasanaethau diagnostig ar gyfer awtistiaeth, fodd bynnag, yn yr Ymarfer Hunanasesu Awtistiaeth a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, dim ond 22% o awdurdodau lleol oedd yn adrodd eu bod yn cyflawni’r amseroedd aros a argymhellir gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Mewn Iechyd a Gofal (NICE), gyda rhai ardaloedd yn Lloegr yn adrodd amseroedd disgwyl am asesiad o hyd at ddwy flynedd. Roedd y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn awgrymu bod y canlyniadau o’r adroddiad cynnydd diwethaf yn datgelu “the autism diagnosis crisis” yn Lloegr, er y ddeddfwriaeth sy’n bodoli yn y maes hwn. Mae hyn yn codi’r cwestiwn o ba mor effeithiol ydy cyflwyno deddfwriaeth newydd o ran gwella gwasanaethau i bobl awtistig, a ph’un a oes, mewn gwirionedd, perygl y bydd datblygu Bil Awtistiaeth ar hyn o bryd yn torri ar draws y gwaith sy’n cael ei wneud eisoes, ac yn ei dro’n creu anhawster o ran cyflenwi ymagwedd gyson.                                  

 

Yn yr Alban, methu yn y cam cyntaf wnaeth y Bil Awtistiaeth arfaethedig, yn Ionawr 2011, ar ôl i Senedd yr Alban anghytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Y Pwyllgor arweiniol ar gyfer y Bil oedd y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Diwylliant a ddaeth i’r casgliad:

 

“legislation for a strategy for a specific disability group may create a two-tier system of strategies whereby strategies set out in legislation are seen to have “more teeth”. The Committee is also concerned that this might lead to a perception of two-tier disabilities with some disabilities thought of as being more worthy of a legislative strategy than others. The Committee does not believe this would be helpful.”

 

Teimlasant hefyd na fyddai’r Bil fel y cafodd ei gyhoeddi yn goresgyn y rhwystrau i ddarpariaeth gwasanaeth nac yn bodloni disgwyliadau pobl awtistig. Nodwyd y ffaith ganddynt fod darnau sylweddol o ddeddfwriaeth berthnasol, tebyg i hynny yng Nghymru, nad oeddynt wedi bod mewn grym am ddigon o amser i werthuso eu heffaith, ac felly nid oedd y Pwyllgor wedi’u hargyhoeddi o’r angen am ddeddfwriaeth ychwanegol gan ddweud “resources would be better spent focusing on the implementation of existing legislation and duties”.

 

Sylwadau ar y Bil arfaethedig       

Tra bo gennym amheuon mawr am yr ymagwedd sy’n cael ei hystyried o ran creu deddfwriaeth newydd ac ychwanegol, amlygwn isod rai sylwadau penodol mewn perthynas â’r Bil fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, er, yn gyffredinol, y credwn y byddai angen cryfhau’r drafft o’r Bil, gan fod diffyg eglurder mewn rhai agweddau arno o ran disgwyliadau.

 

Y Strategaeth Awtistiaeth

O dan 1(7) cyfeirir at yr angen i gomisiynu adroddiad “annibynnol”, tra ein bod yn cydnabod yr angen i adolygu cynnydd ac adrodd ar ei weithrediad, byddwn yn cwestiynu’r defnydd o’r gair “annibynnol”, beth a olygir gan hyn a ph’un a oes angen ei roi ar wyneb y Bil?                   

 

O dan 2(1)(a) mae’r Bil yn nodi bod rhaid i’r Strategaeth Awtistiaeth ddiffinio model neu fodelau arfer gorau. Ymddengys fod hyn yn llawer rhy gyfyngol o ran rhagnodi’r modelau y mae’n rhaid eu diffinio, a gall rwystro newid i’r dyfodol. Efallai y byddai’n well amlygu llwybrau yn hytrach na modelau.

 

O dan 2(1)(c), mae’r Bil yn gofyn am ddechrau asesiadau diagnostig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn atgyfeiriad, ac o leiaf o fewn unrhyw derfynau amser a nodir yn y Safon Ansawdd perthnasol a gyflwynir gan NICE (sef 13 wythnos ar hyn o bryd). Mae hyn yn wahanol i arweiniad presennol Llywodraeth Cymru, sy’n gosod targed o 6 mis (2 wythnos). Mae’r Gymuned Ymarfer ar gyfer diagnosis i oedolion ac ymarferwyr GAI yn ymateb i’r ymchwiliad ar wahân. Yn eu hymateb, amlygir yr elfen hon o’r Bil a’r heriau a’r goblygiadau cysylltiedig, ac rydym yn ategu eu sylwadau. Tra nad yw’n ddelfrydol peidio â chael unrhyw derfynau amser, mewn realiti, nid yw’r targed 26 wythnos cyffredinol presennol yn adlewyrchu cymhlethdod llawer o atgyfeiriadau. Byddai terfyn amser 13 wythnos yn herio hyn ymhellach, ac ni fyddai’n adlewyrchu’r cyfnod amser a fynnir i ymgymryd â’r hyn sy’n aml yn asesiadau cymhleth. Mae arfer gorau hefyd yn pennu y dylid gwneud diagnosis ac ymgymryd ag asesiadau ar sail amlasiantaethol, ac felly fe all gorfod gweithredu o fewn terfynau amser negyddu neu weithio yn erbyn ymagwedd o’r fath. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan glinigwyr, ymarferwyr, Llywodraeth Cymru a’r Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol i edrych ar derfynau amser ar gyfer gwneud diagnosis ac asesiadau fel rhan o’r gwaith parhaus yng nghyswllt datblygu’r GAI. Rhagwelir y cyhoeddir yr arweiniad drafft ar gyfer ymgynghori yn y cyfnod 2018/19. Tra bo amser yn ffactor mewn cynnal asesiadau, rhaid i ansawdd yr asesiad gael blaenoriaeth.             

 

Mae 2(1)(g) yn nodi bod rhaid i’r strategaeth awtistiaeth amlinellu sut y dylai cyrff perthnasol ddiwallu anghenion unigolion ag ASA mewn perthynas â’r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: mynediad at wasanaethau gofal iechyd; mynediad at addysg; mynediad at gyflogaeth; mynediad at dai; mynediad at wasanaethau Cymraeg; mynediad at wasanaethau cyhoeddus eraill; cynhwysiant cymdeithasol; a mynediad at wasanaethau eirioli. Mae rhai o’r meysydd hyn yn llawer rhy gyffredinol, er enghraifft, sut fydd mynediad i gyflogaeth, neu fynediad i wasanaethau cyhoeddus yn cael sylw mewn unrhyw fodd ystyrlon? Yn hytrach na rhoi’r meysydd hyn ar wyneb y Bil, byddai’n well iddynt gael eu cynnwys o fewn canllawiau.

 

Mae 2(1)(l) yn nodi bod y strategaeth awtistiaeth yn gorfod “gwneud darpariaeth ar gyfer ystyried dymuniadau personau ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a theulu a gofalwyr y personau hynny”, fodd bynnag, o dan 4(6)(b) cyfeirir at “bersonau a ddosberthir fel gofalwyr at ddibenion y Ddeddf hon”. Nid yw’n glir beth a olygir gan y rheiny a ddosberthir fel gofalwyr at ddibenion y Ddeddf hon, sut mae hyn yn cyd-fynd â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ynghyd â’r diffiniad o ofalwr o dan y ddeddfwriaeth honno? A ydym yn creu gwahanol ddiffiniadau ar gyfer gofalwyr o dan wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth? Mae hyn yn amlygu’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â chreu deddfwriaeth ychwanegol ar gyfer grwpiau y maent eisoes yn dod o dan ddeddfwriaeth bresennol, ynghyd â’r angen i fod yn glir ynghylch beth yw hawliau a disgwyliadau pobl, gan sicrhau bod deddfwriaeth newydd yn ategu cyfraith bresennol.

 

Canllawiau gan Weinidogion Cymru

Mae 4(2) yn nodi bod rhaid i’r canllawiau gael eu dyroddi o fewn 3 mis o gyhoeddi’r strategaeth. Yn ein hymatebion i’r ymgynghoriad blaenorol, codwyd pryderon am y terfyn amser hwn gan fod rhaid gwneud y gwaith i ddatblygu’r canllawiau ar y cyd, felly mae angen rhoi digon o amser i ganiatáu hyn. Rydym felly’n dal i gwestiynu p’un a fyddai’r cyfnod o dri mis a nodir yn y Bil yn ddigonol, ac awgrymwn fod angen caniatáu rhagor o amser.

 

O dan 6(f) mae’r Bil yn nodi “rhaid i ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gynnwys yn benodol ganllawiau ynghylch trefniadau lleol ar gyfer arweinyddiaeth mewn perthynas â darparu gwasanaethau”. Nid yw’n glir beth a olygir gan y cymal hwn, neu beth y mae’n ceisio ei gyflawni, felly mae angen eglurhad pellach.           

 

Data ar Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth

Mae angen eglurhad pellach o ran ar gyfer beth y cesglir y data, sut, ac ar gyfer pa bwrpas y bydd yn cael ei ddefnyddio, a pham fod rhai mathau o ddata’n cael eu nodi ond nid eraill? Er enghraifft, pam fod rhywedd yn cael ei nodi, ond nid nodweddion gwarchodedig eraill? Byddai o gymorth hefyd i nodi’r terfynau amser sydd dan sylw, ac ystyried i ba raddau y gellir cyflawni’r disgwyliadau dros amser o ran y data y nodwyd fod angen ei gasglu.

 

Goblygiadau Ariannol 

Yn ein tystiolaeth mewn ymateb i ddatblygiad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), amlygwyd yn gyson gennym y goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer gweithredu’r darn hwnnw o ddeddfwriaeth, ac mae’r un peth yn wir am y Bil Awtistiaeth. Mae sawl awdurdod yn gorfod jyglo pwysau o bob math heb gyllid, a hynny gyda gostyngiadau mewn cyllid na welwyd eu tebyg o’r blaen. Credwn y dylid mynd ati’n fuan i ymgysylltu’n llawn â’r holl randdeiliaid yn y gwaith o ffurfio deddfwriaeth, ac na ddylid asesu’r effeithiau ariannol ar wahân, ond fel rhan o’r rhaglen gyfan. Mae’n hanfodol i unrhyw ddyletswyddau a beichiau newydd sy’n cael eu creu gael eu nodi a’u hariannu’n llawn. O ran unrhyw ddeddfwriaeth sy’n cael ei chyhoeddi, mae’n rhaid ei hasesu hefyd ar ôl ei gweithredi’n annibynnol o’r llywodraeth. Y realiti yw, os nad yw gwir gostau gweithredu’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau arfaethedig hyn yn cael eu canfod, yna gallai eu cyflwyno olygu y bydd adnoddau’n cael eu cyfeirio i ffwrdd o wasanaethau cymorth eraill er mwyn darparu’r gwasanaethau perthnasol i bobl awtistig.

 

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi costau ychwanegol o dros £7 miliwn, mae hyn yn ofyn sylweddol o ran adnoddau y byddai angen ei ariannu a’i gefnogi’n llawn, gyda’r costau hyn yn cael eu monitro’n barhaus i sicrhau bod y cyfrifoldebau ychwanegol yn parhau i gael eu hariannu’n llawn. Tra bo’r memorandwm yn dadlau bod tystiolaeth y byddai’r Bil yn arwain at fuddion sylweddol, rhai uniongyrchol ac anuniongyrchol, nid yw’n nodi beth ydynt, gan ddweud “nid yw’n bosibl mesur y rhain, ac felly maent yn anhysbys.” Y costau mwyaf a briodolir i’r Bil yw’r rheiny mewn perthynas â’r gost o gyflawni’r gofyn ychwanegol o ran yr amser disgwyl 13 wythnos. Fel y nodwyd yn ymateb y Gymuned Ymarfer ar gyfer diagnosis oedolion ynghyd â’r ymarferwyr GAI, dim ond un cam yn nhaith bobl mewn perthynas â gwasanaethau awtistiaeth yw’r asesiad diagnostig, a thra ei bod yn bwysig nad yw pobl yn cael eu gadael yn disgwyl am asesiad diagnostig, mae hyn yn rhan fechan iawn o’r hyn y bydd ei angen arnynt gan wasanaethau. Ni ddylid canolbwyntio ar gyflawni amseroedd aros yn unig, mae’n rhaid ystyried yr holl waith arall sy’n cael ei gyflenwi gan wasanaethau awtistiaeth arbenigol. Mae angen symiau sylweddol o gyllid ychwanegol i allu clirio rhestrau aros presennol ac i allu cadw o fewn y terfynau amser arfaethedig wedyn, fel nad ydynt yn peryglu’r gwaith arall sy’n cael ei gyflenwi ganddynt. Mae angen hefyd sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar ôl cael diagnosis, sydd hefyd yn gofyn am fuddsoddiad ychwanegol er mwyn gallu diwallu’r gofynion ychwanegol ar wasanaethau.

 

Fodd bynnag, ni wnaiff dim ond darparu rhagor o arian ddatrys y mater o amseroedd disgwyl yn rhwydd, oherwydd mai rhan o’r broblem hefyd yw bod diffyg diagnostegwyr, ac mae recriwtio i rai gwasanaethau ar draws Cymru yn broblem oherwydd y diffyg staff a chanddynt y sgiliau a’r profiad angenrheidiol.

 

Casgliad 

Gwnaed cynnydd sylweddol yng Nghymru mewn blynyddoedd diweddar o ran gwella gwasanaethau a chymorth ar gyfer pobl awtistig, gydag ymwybyddiaeth yn codi ac ystod o adnoddau’n cael eu llunio a’u cyflwyno. Gwnaed y cynnydd hwn heb yr angen am ddeddfwriaeth ychwanegol. Mae deddfwriaeth bresennol yng Nghymru fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Deddf GIG (Cymru) 2006 a Deddf Cydraddoldeb 2010, ar waith eisoes ac yn darparu hawliau presennol i bobl awtistig, ac os ydynt yn gweithio’n iawn, byddant yn cyflenwi ar gyfer ein holl ddinasyddion ar sail angen, a gellir eu defnyddio i gyflawni dyheadau’r Bil arfaethedig. Ceir goblygiadau hefyd o ran gosod cynsail wrth fynd ymlaen o ran cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer cyflyrau penodol, a allai arwain at alwadau eraill am gyflwyno deddfwriaeth benodol ar gyfer mathau eraill o salwch a chyflyrau, heb fodolaeth tystiolaeth gadarn.

 

Mae tystiolaeth yn awgrymu, lle cyflwynwyd deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth, fel yn Lloegr, nad yw wedi arwain at well canlyniadau ar gyfer pobl awtistig, ac nid yw wedi cyflawni’r buddion a ragwelwyd yn wreiddiol. Credwn yn gryf y dylai’r sylw yng Nghymru fod ar ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael i ganolbwyntio ar weithredu deddfwriaeth a dyletswyddau presennol, gan roi sylw i’r gwaith sydd eisoes wedi cychwyn, y mae’r Bil yn ceisio adeiladu arno, gan hoelio ein sylw ar gyflenwi’r gwasanaethau a’r cymorth sydd eisoes yn cael eu datblygu, sy’n gallu gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl awtistig, teuluoedd a’u gofalwyr.